Da iawn i ŵr yw dwyn yr iau,
Ac ufuddhau yn fore;
A chanlyn Crist,
gan godi'r groes
Yng ngrym ei oes a'i ddyddiau.
Gan fod y nos yn agoshau,
A'r oes mor frau, a phrysur,
Paham y safwn yn ddi-gûdd
Ar hyd y dydd yn segur?
Ffyrdd crefydd sydd yn hyfryd iawn,
A'i llwybrau'n llawn o heddwch;
Ein tywys wnant drwy'r anial dir
I wlad y gwir ddedwyddwch.
Dan gario'r groes ymlaen yr awn
I'r wlad sy'n
llawn hyfrydwch;
Cawn yno daflu'r groes i ffwrdd,
A siriol gwrdd mewn heddwch.
1-3: Casgliad Samuel Roberts 18413,4: D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903
Tonau [MS 8787]: gwelir: Da i ni/ŵr yw dwyn yr iau Dan gario'r groes yn mlaen yr awn |
Very good for a man is bearing the yoke,
And obeying early;
And following Christ,
while carrying the cross
In the strength of his age and his days.
Since the night is approaching,
And the age so ready, and busy,
Why would I stand in the open
All day long idle?
The ways of religion are very delightful,
And its paths full of peace;
They lead us through the desert land
To the land of true happiness.
While carrying the cross let us go on
To the land which is
full of delightfulness;
There we may cast the cross away,
And cheerfully meet in peace.
tr. 2010 Richard B Gillion
|
|